Mae’r Pwyllgor cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol
CLA76 - Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed ar: 4 Ionawr 2012
Fe’u gosodwyd ar: 6 Ionawr 2012
Yn dod i rym ar: 1 Chwefror 2012
CLA77 - Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed ar: 11 Ionawr 2012
Fe’u gosodwyd ar: 12 Ionawr 2012
Yn dod i rym ar: 6 Chwefror 2012
CLA78 - Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed ar: 11 Ionawr 2012
Fe’u gosodwyd ar: 12 Ionawr 2012
Yn dod i rym ar: 12 Ionawr 2012
CLA79 - Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed ar: 10 Ionawr 2012
Fe’u gosodwyd ar: 12 Ionawr 2012
Yn dod i rym: Yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
Dim
Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi gyda’r Cynulliad o dan
Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol
Dim
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
Dim
Busnes arall
The Local Better Regulation Office (Dissolution and Transfer of Functions Etc) Order 2011 [Saesneg yn unig]
Yn unol â phenderfyniad gan y Pwyllgor Busnes, bu’r Pwyllgor yn ystyried y Gorchymyn, The Local Better Regulation Office (Dissolution and Transfer of Functions Etc) Order 2011, a chytunodd i adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar ei gasgliadau.
CLA59 - Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011
Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd, dyddiedig 2 Rhagfyr 2011, ar rinweddau Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011.
Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)
Nododd y Pwyllgor ymddiheuriadau gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, a oedd yn methu â bod yn bresennol i roi tystiolaeth ar lafar mewn perthynas â Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor i ail-drefnu’r eitem hon ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.
Penderfyniad i gyfarfod yn breifat
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi), penderfynodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod goblygiadau ehangach y Gorchymyn, The Local Better Regulation Office (Dissolution and Transfer of Functions Etc) Order 2011.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
23 Ionawr 2012